Please ensure Javascript is enabled for purposes of website accessibility

Gweithredu egwyddorion y Safon Elusen Ddibynadwy trwy hunanasesiad

Mae hunanasesiad Elusen Ddibynadwy yn offeryn ar-lein sydd ar gael trwy danysgrifiad blynyddol.

Bydd yn eich galluogi i:

  • Adolygu eich cynnydd ym mhob maes ansawdd
  • nodi tystiolaeth briodol ar gyfer pob dangosydd sy'n adlewyrchu'r ffordd y mae eich mudiad yn gweithio

Gallwch gynnal yr hunanasesiad Elusen Ddibynadwy yn unol â dwy lefel y Safon. Bydd angen i chi gyflawni Lefel 1 ym mhob maes cyn symud ymlaen i Lefel 2.

Gyda thanysgrifiad ar-lein blynyddol, byddwch yn cael llyfr canllaw Elusen Ddibynadwy am ddim sy'n darparu arweiniad cam wrth gam ar gynnal eich hunanasesiad a gweithredu'r Safon Elusen Ddibynadwy yn eich mudiad.

Pris

Staff (Cyfwerth ag amser llawn)

Pris

0 i 5

£50.00

6 i 15

£75.00

16 i 25

£100.00

26 i 49

£125.00

50 i 100

£150.00

101 i 200

£175.00

201 i 500

£200.00

501 neu ragor

£250.00

 

Nodiadau

  1. Nid yw'r prisiau yn cynnwys TAW, a bydd TAW yn cael ei ychwanegu at y pris wrth brynu.
  2. Mae eich tanysgrifiad i'r hunanasesiad yn ddilys am 12 mis a gellir ei adnewyddu'n flynyddol.
  3. Mae'r pris tanysgrifio yn dibynnu ar nifer y staff cyfwerth ag amser llawn.
  4. Mae aelodau NCVO a CGGC yn elwa ar ostyngiad o 10%.

Prynwch eich tanysgrifiad blynyddol ar gyfer Hunanasesiad Elusen Ddibynadwy

Cefnogi eich hunanasesiad

Mae cymorth ar gael trwy gydol y cyfnod hunanasesu:

Mentoriaid Elusen Ddibynadwy

Gallwch ymgysylltu ag un o'n Mentoriaid Elusen Ddibynadwy, a fydd yn gallu darparu cyngor a chymorth wedi'u teilwra ar weithredu'r Safon Elusen Ddibynadwy yn eich mudiad.

Gweithdai

Gallwch fynd i’n gweithdy Gweithredu Elusen Ddibynadwy. Mae rhestr lawn o’r dyddiadau hyfforddiant i’w gweld ar ein tudalen Hyfforddiant a Digwyddiadau.