Please ensure Javascript is enabled for purposes of website accessibility

Mae gweithio trwy'r un ar ddeg o feysydd ansawdd Safon Ddibynadwy yn eich galluogi i asesu pa mor dda y mae eich mudiad yn ei wneud ac i gynllunio gwelliannau pellach

 

 

Dau gyfnod i'ch taith Safon Ddibynadwy:

Cyfnod 1: Hunanasesiad

Gweithredu egwyddorion y Safon Elusen Ddibynadwy trwy hunanasesu

Cyfnod 2: Achredu Allanol

Asesu a dyfarnu Marc Elusen Ddibynadwy

Cyfnod 1: Hunanasesiad

Gweithredir Safon Ddibynadwy gan ddefnyddio ein hofferyn hunanasesu ar-lein sy'n helpu eich mudiad i edrych ar yr hyn yr ydych yn ei wneud mewn ffordd systematig, gweld beth yr ydych yn ei wneud yn dda a lle y gallwch wneud gwelliannau.

Gallwch ddefnyddio hwn yn sail ar gyfer cynllunio, cyllidebu a dyrannu adnoddau i wneud gwelliannau.

Cyfnod 2: Achrediad Allanol

Ar ôl i chi gwblhau eich hunanasesiad a'ch cynlluniau gweithredu ar gyfer Safon Ddibynadwy, gallwch wneud cais am achrediad Marc Elusen Ddibynadwy.

Dyfernir y marc ansawdd hwn yn dilyn asesiad allanol gan asesydd annibynnol, ac mae'n arddangosiad o ragoriaeth ledled eich sefydliad. Mae cyflawni'r Marc hefyd yn rhoi arwydd clir i gyllidwyr o ansawdd eich gwaith.