Please ensure Javascript is enabled for purposes of website accessibility

Mae ansawdd yn golygu ceisio gwneud pethau’n well – o ran y gwasanaethau y mae eich mudiad yn eu cynnig i’w ddefnyddwyr ac o ran y ffordd y mae eich mudiad yn cael ei redeg.

Mae Safon Ddibynadwy yn cynnig ffordd systematig a chyson i weithredu ac amlygu ansawdd yn eich mudiad.

Mae Safon Elusen Ddibynadwy yn safon ansawdd syml, hawdd ei defnyddio a chynhwysfawr sydd â'r nod o'ch helpu i redeg eich mudiad mewn ffordd fwy effeithiol ac effeithlon. Mae'n ffordd hyblyg o ddelio ag ansawdd sy'n gadael i'ch mudiad weithio ar ei gyflymder ei hun.


Mae'n eich helpu i edrych ar yr hyn yr ydych yn ei wneud mewn ffordd systematig, i nodi meysydd lle’r ydych yn gwneud yn dda, ac yna benderfynu lle yn union y mae angen gwneud gwelliannau. Mae'n eich helpu i gynllunio, i gyllidebu ac i ddyrannu'r adnoddau angenrheidiol ar gyfer gwneud y gwelliannau hyn dros gyfnod amser realistig. Mae Elusen Ddibynadwy yn hyrwyddo gwelliannau parhaus trwy hunanasesiad a marc ansawdd a asesir yn allanol.

Mae gallu profi bod eich mudiad yn cael ei redeg a’i reoli'n dda, a'i fod yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaethau effeithiol, yn bwysig ar gyfer rhanddeiliaid mewnol ac allanol. At hynny, wrth wneud ceisiadau am gyllid a thendro am gontractau, mae eich gallu i ddangos ansawdd trwy Marc Elusen Ddibynadwy yn cynnig sicrwydd i'r rhai sy'n ariannu eich gwasanaethau ac yn eu defnyddio.

Mae Elusen Ddibynadwy, a elwid gynt yn PQASSO, yn cael ei adolygu'n rheolaidd i sicrhau ei fod yn gyfredol, yn parhau i ymestyn mudiadau, ac yn diwallu anghenion y sector gwirfoddol. Felly, mae pedwerydd argraffiad Elusen Ddibynadwy yn adlewyrchu'r adborth gan fudiadau'r sector gwirfoddol am flaenoriaethau'r sector.

Mae Elusen Ddibynadwy yn cwmpasu 11 o feysydd ansawdd. Mae'r 10 maes ansawdd cyntaf yn canolbwyntio ar y modd y mae eich mudiad yn cael ei redeg ac ansawdd y gwasanaethau i ddefnyddwyr. Mae maes ansawdd 11 yn ymwneud â'r canlyniadau a'r effaith yr ydych yn eu sicrhau ar gyfer defnyddwyr eich gwasanaeth, eich mudiad, ei bobl a'r gymuned ehangach.

Mae dwy lefel i'r Safon Elusen Ddibynadwy, ac mae mudiadau yn dewis gweithio tuag at Lefel 1 neu Lefel 2. I ddechrau, mae mudiadau yn hunanasesu yn unol â’r lefel a ddewiswyd ganddynt, ac yna gall achrediad allanol ddilyn. Cynhelir achrediad allanol gan aseswyr Marc Elusen Ddibynadwy – pobl brofiadol o'r sector gwirfoddol sydd wedi'u hyfforddi a'u cefnogi i gynnal asesiadau o fudiadau yn unol â’r Safon Elusen Ddibynadwy.

Meysydd Ansawdd Safon Ddibynadwy

Mae gan y Bwrdd y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arno i gyflawni cenhadaeth y mudiad ac i gadarnhau ei werthoedd. Mae’n gwneud yn siŵr bod y mudiad yn cael ei lywodraethu mewn ffordd effeithiol a chyfrifol, gan bennu strategaethau a pholisïau. Mae’n atebol i randdeiliaid ac yn adrodd yn ôl yn agored am berfformiad y mudiad ac am ei effaith.

Mae cenhadaeth, gwerthoedd a nodau cyffredinol y mudiad wedi’u diffinio’n glir. Mae cynlluniau’n canolbwyntio ar ganlyniadau ac effeithiau, ac maent wedi’u seilio ar anghenion a disgwyliadau defnyddwyr a rhanddeiliaid eraill. Mae blaenoriaethau a thargedau clir yn cael eu gosod, gan ystyried yr adnoddau sydd eu hangen. Mae cynnydd yn cael ei adolygu’n rheolaidd ac mae cynlluniau’n cael eu haddasu os oes angen.

Mae’r arweinwyr yn ysbrydoli ac yn cymell pobl i wneud gwahaniaeth ac i wireddu gweledigaeth y mudiad. Maent yn rhoi cefnogaeth ac arweiniad clir, gan hybu diwylliant tryloyw a chynhwysol. Mae’r rheolwyr yn datblygu systemau, ffyrdd o weithio a dulliau cyfathrebu effeithiol, gan feithrin cryfder a menter unigolion a hybu arloesedd.

Mae’r defnyddwyr yn gwbl ganolog i’r mudiad. Mae gwerthoedd a dulliau gweithredu’r gwasanaeth yn gwbl glir ac yn sail i gynllun y gwasanaethau a’r gweithgareddau a’r modd y maent yn cael eu cyflawni. Mae’r mudiad yn canolbwyntio ar sicrhau’r canlyniadau arfaethedig ar gyfer defnyddwyr, gan eirioli ar eu rhan. Mae’r staff a’r gwirfoddolwyr yn gweithio gyda defnyddwyr i adnabod a bodloni eu hamrywiol anghenion, ac i adolygu cynnydd.

Mae’r mudiad yn recriwtio’r bobl iawn i gyflawni ei genhadaeth. Mae gan y staff a’r gwirfoddolwyr y sgiliau, y wybodaeth a’r profiad priodol, maent yn gwybod i bwy maent yn atebol, ac maent yn deall eu rôl. Mae’r rheolwyr yn cefnogi pobl, gan hybu arferion gweithio da a sicrhau y cyflawnir canlyniadau arfaethedig.

Mae cyfleoedd ar gyfer dysgu yn cael eu hystyried yn rhan hanfodol o ddatblygiad unigolion a’r mudiad. Mae pobl yn dysgu o’u profiadau eu hunain ac o brofiadau pobl eraill. Mae’r mudiad yn rhannu’r hyn y mae’n ei ddysgu ac yn ei ddefnyddio i sicrhau gwelliannau parhaus. Mae cyfleoedd dysgu a datblygu yn cael eu hybu ac adnoddau’n cael eu darparu ar gyfer hynny.

 

Mae’r mudiad yn cydymffurfio â’r gyfraith ac arferion da wrth roi cyfrif am ei arian. Mae’n cynhyrchu digon o incwm i wneud ei waith arfaethedig ac i fod yn hyfyw ac yn gynaliadwy yn ariannol. Mae’n rheoli ei arian yn ddoeth ac yn effeithiol, ac mae ganddo reolaeth ariannol gadarn.

Mae adnoddau’n cael eu rheoli mewn modd sy’n sicrhau bod digon ar gael i allu cynnal gweithgareddau arfaethedig. Maent yn cael eu defnyddio mewn ffordd ddiogel, effeithlon ac effeithiol. Mae gwybodaeth a thechnoleg y mudiad, a’i adnoddau gwybodaeth, yn cael eu gwarchod yn briodol. Mae’r mudiad yn mabwysiadu arferion gweithio cynaliadwy a moesegol, ac mae’n rheoli adnoddau mewn ffyrdd sy’n lleihau unrhyw effaith negyddol ar yr amgylchedd.

Mae’r mudiad yn ymgysylltu’n effeithiol â’i ddefnyddwyr a rhanddeiliaid allanol eraill, gan ddatblygu cysylltiadau. Mae’n defnyddio amrywiol gyfryngau i hyrwyddo ei waith a buddiannau ei ddefnyddwyr, gan rannu gwybodaeth yn agored am ei effaith er mwyn sbarduno mwy o newidiadau.

Mae’r mudiad yn meithrin cysylltiadau da â mudiadau eraill er budd strategol a gweithredol. Mae’n asesu ac yn manteisio ar gyfleoedd priodol i weithio mewn partneriaeth ag eraill er mwyn gwella effeithlonrwydd a chynaliadwyedd, sbarduno newid a sicrhau gwell canlyniadau i ddefnyddwyr.

Mae pobl yn cael eu cefnogi i gasglu a dadansoddi gwybodaeth ynghylch canlyniadau’r mudiad a’i effaith, ac i roi gwybod am lwyddiannau mewn ffordd onest ac agored. Mae dulliau monitro a gwerthuso’n rhan o’r gwaith cynllunio, ac mae canfyddiadau’n cael eu defnyddio i wella gwasanaethau a gweithgareddau er mwyn sicrhau rhagor o fudd i ddefnyddwyr a chyflawni cenhadaeth y mudiad yn well.

Lefelau Cyrhaeddiad

Mae pob maes ansawdd yn cynnwys dwy lefel cyrhaeddiad. Gall eich mudiad ddewis y lefel priodol sy'n gweddu i'w hanghenion cyfredol. Bydd eich dewis yn cael ei ddylanwadu gan eich:

  • cynlluniau ar gyfer gwella a datblygu
  • diwylliant sefydliadol
  • systemau a phrosesau cyfredol
  • profiad o hunanasesu a safonau ansawdd eraill
  • maint a chymhlethdod y mudiad
  • capasiti o ran y staff ac adnoddau

 

Lefel 1

Mae dangosyddion Lefel 1 ar gyfer pob Maes Ansawdd yn gosod y sylfaen ar gyfer adeiladu mudiadau cryf. Fe'u datblygwyd i dynnu sylw at ofynion cyfreithiol ac i alluogi dadansoddiad o'r systemau a'r strwythurau sylfaenol i amddiffyn hawliau defnyddwyr eich gwasanaeth, eich gweithwyr a'ch gwirfoddolwyr. Pan gânt eu cymhwyso, mae dangosyddion Lefel 1 yn sicrhau bod prosesau llywodraethu a rheoli da ar waith i gyflawni gweithgareddau a gynlluniwyd ac i ddangos canlyniadau ac effaith.

Lefel 2

Mae Safon Ddibynadwy Lefel 2 yn adeiladu ar ddangosyddion Lefel 1 ac mae'n rhaid i'r rhain fod ar waith cyn ystyried symud ymlaen i Lefel 2.

Mae dangosyddion Lefel 2 ar gyfer pob Maes Ansawdd yn gofyn bod eich mudiad yn fwy strategol o ran ei ddull gweithredu. Mae dangosyddion Lefel 2 yn cefnogi datblygiad o’ch cynlluniau manwl tymor hwy, ac yn gofyn am fwy o gapasiti i ddatblygu eich prosesau mewnol. Mae cymhwyso’r dangosyddion ar Lefel 2 yn cynnwys casglu ystod eang o wybodaeth monitro am weithgareddau, canlyniadau ac effaith tymor hwy eich mudiad. Mae mwy o ffocws ar welliant parhaus a bydd mwy o bolisïau, gweithdrefnau ac arferion yn cael eu dogfennu

.