Please ensure Javascript is enabled for purposes of website accessibility

Marc Elusen Ddibynadwy yw'r unig achrediad ar gyfer elusennau a gefnogir gan NCVO. Nid oes unrhyw farc ansawdd arall yn mynd i'r afael â'r holl feysydd hanfodol sy'n angenrheidiol ar gyfer rheoli a llywodraethu elusen mewn modd effeithiol.

Ar ôl i chi gwblhau eich hunanasesiad a'ch cynlluniau gweithredu ar gyfer Elusen Ddibynadwy, gallwch wneud cais am achrediad Marc Elusen Ddibynadwy.

Beth yw Marc Elusen Ddibynadwy?

Gyda chefnogaeth Cyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol (NCVO), mae Marc Elusen Ddibynadwy yn safon ansawdd a gydnabyddir yn genedlaethol ac a ddyfernir i'ch mudiad ar ôl asesiad allanol. Mae cyflawni'r Marc yn cynnig dilysiad allanol i ddefnyddwyr gwasanaethau a chyllidwyr o ansawdd a hygrededd eich mudiad.

Gallwch wneud cais i gael eich asesu yn unol â’r Marc Elusen Ddibynadwy ar ôl cwblhau eich hunanasesiad a'ch cynlluniau gweithredu ar gyfer Elusen Ddibynadwy.  Rhaid i'ch mudiad fod yn elusen gofrestredig er mwyn gwneud cais.

Ar ôl i'ch cais gael ei brosesu, bydd eich mudiad yn cael asesiad allanol sy'n cynnwys casglu tystiolaeth, adolygu dogfennaeth a chyf-weld â staff, aelodau'r bwrdd a gwirfoddolwyr. Mae hon yn broses asesu dau gam. Mae Cam 1 yn cynnwys adolygiad bwrdd gwaith ac, ar ôl cwblhau Cam 1 yn llwyddiannus, bydd y mudiad yn symud ymlaen i Gam 2, sef asesiad ar y safle (neu o bell).

Bydd yr asesiad allanol yn cael ei gynnal gan ein haseswyr Marc Elusen Ddibynadwy – aelodau o'r sector gwirfoddol sydd wedi'u hyfforddi a'u cefnogi i gynnal asesiadau o fudiadau yn unol â’r Safon Elusen Ddibynadwy.

TCM Diagram Cymraeg

Pris

Mae pris eich asesiad Marc Elusen Ddibynadwy yn seiliedig ar:

  • nifer y staff cyfwerth ag amser llawn yn eich mudiad
  • nifer y safleoedd yr ydych yn gweithio ar eu traws (gweler y nodiadau)
  • lefel eich asesiad.
Staff (Cyfwerth ag amser llawn)

Lefel 1- un safle

Lefel 2- un safle

0 i 5

£2,205.00

£3,308.00

6 i 15

£2,573.00

£3,675.00

16 i 25

£3,308.00

£4,410.00

26 i 49

£4,961.00

£6,983.00

50 i 100

£5,696.00

£7,718.00

101 i 200

£6,431.00

£8,453.00

201 i 500

£7,534.00

£9,555.00

501 i 800

£9,004.00

£11,025.00

801 neu ragor

Nodiadau:

  1. Mae'r prisiau hyn yn seiliedig ar fudiadau sydd ag un safle neu swyddfa. Os ydych yn gweithredu o fwy nag un safle neu swyddfa, neu os oes gennych fwy nag 800 o staff, gofynnwch am ddyfynbris pwrpasol trwy e-bost. Bydd angen i chi ddarparu manylion am nifer y staff cyfwerth ag amser llawn a nifer y safleoedd yr ydych yn gweithio ar eu traws.

  2. Mae staff cyfwerth ag amser llawn yn cynnwys yr holl staff cyflogedig ac nid yw'n cynnwys gwirfoddolwyr.

  3. Nid yw'r prisiau uchod yn cynnwys TAW, a fydd yn cael ei ychwanegu, ynghyd ag unrhyw gostau teithio a chynhaliaeth rhesymol ar gyfer yr asesydd, a godir yn unol â’r gost.

  4. Gostyngiad i aelodau NCVO/CGGC. Os ydych yn aelod o NCVO neu CGGC cewch ostyngiad o 10% oddi ar y ffioedd. Mae aelodaeth o’r sefydliadau hyn yn cynnig nifer o fuddion eraill.

  5. Mae mudiadau sydd wedi'u hachredu ar hyn o bryd yn cael gostyngiad o 15% ar asesiadau i adnewyddu eu hachrediad.

Gwnewch gais am Asesiad Marc Elusen Ddibynadwy

Dewch yn aelod o NCVO

Dewch yn aelod o CGGC