Please ensure Javascript is enabled for purposes of website accessibility

Mae Elusen Ddibynadwy yn safon ansawdd hyblyg sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau ac sydd wedi'i gynllunio i helpu elusennau i weithredu mewn modd mwy effeithiol ac effeithlon

Beth yw Elusen Ddibynadwy?

Gyda chefnogaeth Cyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol (NCVO), mae Elusen Ddibynadwy yn safon ansawdd sydd wedi ei gydnabod yn genedlaethol. Gall helpu eich mudiad i:

  • gynnal proses hunanasesu systematig ar draws 11 o feysydd ansawdd, sy’n cwmpasu pob agwedd ar weithredu ac
  • eo ennill achrediad annibynnol yn dilyn asesiad allanol.

Mae gwaith ymchwil wedi dangos y gall mudiadau sy'n defnyddio Elusen Ddibynadwy gael budd o'r canlynol:

  • Gwasanaethau o well ansawdd i ddefnyddwyr – yn cryfhau canlyniadau ac effaith ar gyfer eich mudiad.
  • Gweithdrefnau a systemau sefydliadol mwy effeithiol ac effeithlon – yn rhyddhau amser ac egni i ganolbwyntio ar yr hyn sy'n wirioneddol bwysig i chi a'ch mudiad.
  • Gwell cyfathrebu ymhlith staff, aelodau’r Bwrdd a gwirfoddolwyr – Rhoi amser i aelodau'r tîm fyfyrio ar eu cyflawniadau a’r modd y maent yn teimlo y gellir gwneud gwelliannau pellach.
  • Mwy o gymhelliant i staff, aelodau’r Bwrdd a gwirfoddolwyr – bydd cynnwys pawb yn y broses o wella'r ffordd yr ydych yn gweithio yn dod â syniadau ffres, ffyrdd newydd o weithio ac ymrwymiad i'r newidiadau yr ydych yn eu gweithredu.
  • Mwy o hygrededd a chyfreithlondeb gyda chyllidwyr a phartneriaid – yn eu sicrhau bod eich mudiad yn defnyddio safon ansawdd sefydledig i gynllunio ac adolygu gwelliant parhaus.
  • Meddwl yn fwy creadigol, gan alluogi safbwyntiau newydd a ffyrdd newydd o weithio – yn annog holl aelodau'r tîm (a defnyddwyr y gwasanaeth) i weithio gyda'i gilydd i ystyried sut y gellir gwneud gwelliannau, a sicrhau bod eu syniadau'n cael eu clywed.
  • Dysgu sefydliadol – defnyddio fframwaith allanol i adolygu eich arferion cyfredol a, lle bo hynny'n briodol, i wella perfformiad aelodau'r tîm a'r mudiad
  • Gwella’n barhaus – sefydlu prosesau i wreiddio gwelliant parhaus yn eich mudiad.

Bydd ennill achrediad Marc Elusen Ddibynadwy yn rhoi’r canlynol i'ch mudiad:

  • dilysiad allanol i ddangos eich bod wedi cyflawni safonau Elusen Ddibynadwy
  • cydnabyddiaeth a chyfreithlondeb gyda chyllidwyr a phartneriaid – yn rhoi sicrwydd iddynt bod asesydd annibynnol wedi cadarnhau bod eich mudiad yn cael ei redeg yn dda, yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, yn atebol ac yn dryloyw.
  • mwy o ymgysylltiad gan y staff, aelodau'r Bwrdd a gwirfoddolwyr i barhau â'ch taith gwella ac i gadw'r achrediad yn y dyfodol.
  • cadarnhad bod eich mudiad wedi cyrraedd safon ansawdd sy’n cael ei chydnabod.
  • gwell dysgu sefydliadol trwy’r broses asesu.

Cysylltwch â ni i weld sut y gallwn gefnogi'ch mudiad i weithredu Safon Elusen Ddibynadwy

COVID-19: Cadw asesiadau Elusen Ddibynadwy yn ddiogel ar yr adeg hon