Rydym yn argymell eich bod yn parhau i hunanasesu yn unol â’r dangosyddion Elusen Ddibynadwy am y tair blynedd y mae eich achrediad yn ddilys. Dyma'r ffordd orau o sicrhau na fydd yna fylchau mawr, a bod eich arfer da yn cael ei gynnal.
Mae newidiadau o ran staff, gwirfoddolwyr, ymddiriedolwyr, yr amgylchedd allanol ac anghenion eich defnyddwyr yn golygu bod yn rhaid i chi asesu a gwerthuso lle ydych chi yn gyson. Mae rhai mudiadau yn cynnal eu gweithgor Elusen Ddibynadwy yn fecanwaith ar gyfer gwirio bod y mudiad yn dal i gydymffurfio. Mae eraill yn ymgorffori Elusen Ddibynadwy yn eu strwythurau safonol a'u systemau adolygu.
Weithiau bydd mudiadau'n penderfynu bod hwn yn gyfle i ystyried gweithredu Elusen Ddibynadwy ar y lefel nesaf. Wrth weithio tuag at y lefel nesaf, mae'n bwysig gwirio eich bod yn dal i gynnal eich perfformiad yn unol â’r holl ddangosyddion ar y lefel flaenorol.
Mae eich achrediad Marc Elusen Ddibynadwy yn para tair blynedd. Er mwyn cynnal eich achrediad ac osgoi bwlch rhwng diwedd eich dyfarniad gwreiddiol a'ch dyfarniad newydd, byddwn yn cysylltu â chi ddeuddeg mis cyn i'ch achrediad ddod i ben i drafod eich cynlluniau ar gyfer adnewyddu. Rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais o leiaf dri mis cyn i'r dyfarniad ddod i ben er mwyn osgoi bwlch o ran y statws dyfarnu.
Os nad ydych am adnewyddu eich dyfarniad, bydd eich achrediad yn dod i ben ar ddiwedd y cyfnod tair blynedd ac ni fydd eich mudiad yn gallu defnyddio'r logo mwyach.