Please ensure Javascript is enabled for purposes of website accessibility

Cadw asesiadau Safon Ddibynadwy yn ddiogel

Wrth i ni barhau i fonitro'r sefyllfa o ran y pandemig coronafeirws (COVID-19), rydym wedi rhoi set o fesurau ar waith a fydd yn caniatáu i ni barhau i weithio gyda'ch mudiad mewn ffordd sy'n addas i chi ac i'n rhwydwaith o aseswyr a mentoriaid Safon Ddibynadwy.

Ein sefyllfa

Lles ein staff, ein cleientiaid a’n partneriaid yw ein prif flaenoriaeth, ac rydym yn dilyn canllawiau diweddaraf y Llywodraeth i atal lledaeniad y coronafeirws.

Cyn y pandemig, roeddem wedi symud ein holl staff i ddull cwbl hyblyg, gan ganiatáu iddynt weithredu'n effeithiol o unrhyw leoliad. Roedd cymryd y cam hwn yn golygu ein bod wedi gallu symud yn gyflym i weithio gartref, yn unol â chanllawiau'r Llywodraeth.

Ddechrau'r pandemig, aethom ati i symud ein holl asesiadau safon ansawdd i ddull o bell. Ers hynny rydym wedi bod yn cynnal cyfarfodydd â chwsmeriaid, cyfweliadau asesu a ‘theithiau’ o amgylch safleoedd trwy systemau cynadledda dros y ffôn a fideogynadledda.

Roedd NCVO hefyd wedi symud pob asesiad allanol Safon Ddibynadwy i ddull o bell ym mis Ebrill 2020. ’Nawr bod The Growth Company wedi ymgymryd â chyflawni’r holl weithgarwch Elusen Ddibynadwy ar ran NCVO, byddwn yn parhau â'r dull hwn ac yn adolygu sefyllfa gyfredol y pandemig COVID-19 yn rheolaidd.

Asesiadau Allanol Safon Ddibynadwy

Os oes modd, bydd eich mudiad yn awyddus i geisio cadw mor agos â phosibl at fusnes fel arfer. Mae’r un peth yn wir yn achos ein hachrediadau

Rydym yn cynnal asesiadau allanol Safon Ddibynadwy trwy gyfweliadau a theithiau o gwmpas y safle. Er bod y ddau weithgaredd wedi cael eu cynnal wyneb yn wyneb yn draddodiadol, ein profiad er mis Ebrill 2020 yw y gellir cyflawni'r gweithgareddau hyn yr un mor effeithiol trwy ddulliau fideogynadledda a galwadau ffôn. Mae ein profiad yn cael ei gefnogi gan adolygiadau allanol.

Gall eich asesydd ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau i siarad â'ch pobl yn unigol ac mewn grwpiau. Mae yna lawer o opsiynau ar gael i ni, gan gynnwys Teams, Skype, Zoom neu ffôn. Neu, os oes gennych lwyfan arall ar waith yn barod, bydd eich asesydd yn hapus i'w ddefnyddio.

Gall eich asesydd hefyd addasu cyfansoddiad a nifer y bobl y bydd y siarad â nhw – gan ganiatáu i asesiadau barhau gyda'r staff a'r gwirfoddolwyr sydd ar gael, a chynnal cadernid eich asesiad ar yr un pryd.

Rydym yn cydnabod bod pob un o'n cwsmeriaid yn wahanol ac y byddant wedi cymryd camau gwahanol i addasu eu model gweithredu i'r pandemig. Os oes gennych resymau penodol dros ddymuno i elfennau o'ch asesiad gael eu cyflwyno'n bersonol, cysylltwch â ni fel y gallwn drafod y ffordd orau i gydbwyso eich anghenion, sicrhau cadernid yr asesiad a chadw pawb yn ddiogel.

Os yw'r sefyllfa bresennol yn golygu na fydd eich mudiad yn gallu cwblhau ei asesiad allanol Safon Ddibynadwy mewn pryd, hyd yn oed wrth ddefnyddio'r dulliau o bell a nodir uchod, rhowch wybod i'ch asesydd. Bydd yn gallu gweithio gyda chi a ni i gytuno ar amserlen ddiwygiedig ar gyfer eich adolygiad.

BBBDB4

Rhagor o Wybodaeth

Os oes gennych unrhyw bryderon eraill neu geisiadau penodol ynghylch y ffordd yr hoffech i ni weithio gyda chi, mae croeso i chi gysylltu

Cysylltwch â ni