Cael gafael ar gymorth wedi'i deilwra gan ein mentoriaid Elusen Ddibynadwy

Mae ein mentoriaid Elusen Ddibynadwy yn cael eu hyfforddi a'u trwyddedu gan The Growth Company i ddarparu cymorth, hyfforddiant a chyngor ar weithredu Elusen Ddibynadwy ledled y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon. Mae gan ein mentoriaid sgiliau ac arbenigeddau gwahanol.

Gall eich mentor helpu'ch mudiad gyda’r canlynol:

  • eich hunanasesiad
  • sefydlu gweithgorau
  • darparu cymorth un-i-un
  • cyflwyno i'ch ymddiriedolwyr a/neu i’ch grŵp arweinyddiaeth
  • darparu hyfforddiant i'ch staff ar Elusen Ddibynadwy
  • eich cefnogi i baratoi ar gyfer yr asesiad allanol.

Ni all eich mentor:

  • asesu neu ddyfarnu eich sefydliad
  • dweud wrth eich mudiad a yw mewn sefyllfa i gael achrediad Marc Elusen Ddibynadwy.
Onetoone

Diddordeb mewn archwilio sut y gall ein
Mentoriaid gefnogi eich mudiad?

Cysylltwch â ni